![]() |
14 Mai 2015
Ymgynghoriad ar God Ymarfer i Landlordiaid ac Asiantwyr y Sector Tai Rhent Preifat
Annwyl Weinidog
Deallaf fod Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar God Ymarfer i Landlordiaid ac Asiantwyr y Sector Tai Rhent Preifat, a fydd yn dod i ben ar 22 Mai 2015.
Efallai y gwyddoch, yn ystod ein gwaith craffu ar y Bil Tai (Cymru) yng Nghyfnod 1 fe wnaethom gymryd diddordeb brwd yn y cod ymarfer arfaethedig a chyflwyno nifer o argymhellion i’ch rhagflaenydd am gynnwys unrhyw god yn y dyfodol.
Yn ystod y cyfarfod heddiw, cytunodd y Pwyllgor y byddwn i’n ysgrifennu atoch chi i gofrestru ein diddordeb mewn ymgymryd â gwaith byr ar y Cod drafft, a allai gynnwys casglu tystiolaeth gan randdeiliaid. Byddai’n ddefnyddiol pe baech yn amlinellu eich amserlen ar gyfer cwblhau a gosod y Cod er mwyn i ni gynllunio ein gwaith fel y gallwn gael gyfle i gyfrannu at y fersiwn derfynol.
Byddem hefyd yn gwerthfawrogi cael gweld unrhyw ymatebion
i’r ymgynghoriad yr ydych wedi’u cael yn gynnar, er
mwyn llywio ein gwaith. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech nodi
yn eich ateb pryd y byddwn yn debygol o gael y rhain.
Edrychaf ymlaen at eich ymateb.
Yn gywir
![]()
Christine Chapman AC
Cadeirydd